a still from burial featuring a person sitting in a tolet cubicle holding some papers

Cwrdd  Gwneuthurwyr Beacons: Hannah Daniel A Georgia Lee

Yn nrama gomedi Hannah Daniel a Georgia Lee, Burial, mae tripledi unfath yn dechrau cwffio yn angladd eu tad. Daw sylwadau sarhaus a chyfrinachau i glyw wrth i densiynau teuluol gael eu hymestyn lawer yn rhy bell.

Cyn i’r ffilm gael ei dangos am y tro cyntaf, cawsom sgwrs gyda’r ddwy awdur-gyfarwyddwr am eu perthynas greadigol, creu ffilmiau’n ddwyieithog a chwarae tripledi.

Haia Hannah a Georgia, allwch chi sôn ychydig amdanoch eich hun?
Rydyn ni’n dîm o awduron-gyfarwyddwyr a wnaeth gwrdd tra’n astudio llenyddiaeth Saesneg yn 2006. Dyma ni’n syrthio mewn cariad ar unwaith ac wedyn fe dreulion ni’r pum mlynedd nesaf yn byw ym mhocedi ein gilydd, a chyda’r un toriad gwallt. Fe ddechreuon ni gydweithio ar sgriptiau comedi i’r teledu yn 2016 ac ers hynny rydyn ni wedi ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu ffilmiau byr.

Rydych chi’n cydweithio llawer fel tîm o awduron a chyfarwyddwyr; beth yw manteision cydweithio fel hyn?
Georgia: Rwy’n dwlu ar gydweithio, a Hannah yw’r cyd-chwaraewr gorau bob amser. Mae hebrwng syniad o’r gair cyntaf ar dudalen i ffilm orffenedig wedi bod yn wefr ac roedd yn golygu gorfod dysgu llawer yn sydyn. Roedd cydweithio ar yr ysgrifennu a’r cyfarwyddo ar gyfer Burial yn hanfodol. Roedd yn golygu bod gan y ddwy ohonom ni wybodaeth lwyr am bob manylyn o’r ffilm. Ac y gallen ni rannu a rheoli pan fyddai amser yn gwasgu. Mae cael cydweithiwr y gallaf i ymddiried ynddi fel Hannah yn beth gwych!

Hannah: Yn bendant! Roedd Burial yn arbennig o unigryw o ran cydweithio – roedd yn brosiect uchelgeisiol o fewn yr amser a’r gyllideb, felly roedd rhannu dealltwriaeth ddofn gyda Georgia ar bob agwedd ar greu’r ffilm yn amhrisiadwy. Roedden ni hyd yn oed yn rhannu gwely yn ein llety ym Mhort Talbot tra’n saethu, felly mae’n beth da ein bod ni’n tynnu ’mlaen!

Hannah, rydych chi hefyd yn serennu fel y tripledi yn y ffilm; pa heriau oedd ynghlwm wrth ymgymryd â chymaint o rolau o flaen a’r tu ôl i’r camera?
Unwaith eto, y cydweithio oedd y peth. Heb fy wingman ffyddlon, fe allai fod wedi bod yn brofiad gwahanol iawn. Ond o fod wedi gweithio mor agos gyda Georgia yn paratoi ar gyfer y saethu (ac yn ymarfer), roedden ni’n gwybod yn union beth oedd ei angen arnom ni, ac roeddwn i’n gwybod y gallwn i ganolbwyntio ar berfformiad ar y diwrnod. Rydyn ni wedi datblygu llaw-fer ddefnyddiol iawn rhyngom ni dros y blynyddoedd, sy’n help mawr o dan bwysau. Roedden ni hefyd yn rhyfeddol o ffodus gyda Pamela ac Emily, ein heilyddion ymladd. Maen nhw’n berfformwyr mor dalentog a hael, ac roedd hynny’n helpu gymaint wrth chwarae’r rhyngweithio rhwng y chwiorydd. Roedden ni hefyd yn ffodus iawn i gael hufen talent actio Cymru yn rhan o’r ffilm i ryngweithio â nhw hefyd! Roedd gen i ffydd lwyr yn y criw – roeddwn i wedi gweithio gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn y gorffennol ac felly roeddwn i’n gwybod ein bod ni mewn dwylo diogel. Heb hyn oll, byddai cael cymaint i’w wneud yn llethol, ond yn lle hynny dyna un o’r profiadau gwaith mwyaf gwefreiddiol i mi ei gael erioed.

Georgia, pam wnaethoch chi benderfynu creu’r ffilm yn Gymraeg a Saesneg?
Roedd gennym ni ddiddordeb mawr mewn seremoni ynghylch marwolaeth ac angladdau a pha mor ddramatig y gall fod pan fydd rhywbeth yn tarfu ar ein seremonïau. Roedden ni eisiau archwilio sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar gyfer statws a ffurfioldeb ond hefyd ar gyfer cyfrinachau brys a sylwadau wrth fynd heibio. Roedd yn ddiddorol hefyd o ran cymeriadu’r tripledi sy’n brif gymeriadau. Gall pryd maen nhw’n penderfynu siarad Saesneg a phryd maen nhw’n penderfynu siarad Cymraeg ddweud llawer am gymeriad.

Pa fath o gymorth roddodd Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI i chi?
Mae Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI wedi rhoi cymorth gwych i ni drwy’r broses o ysgrifennu, saethu a gorffen Burial. Roedd cymorth ariannol yn amlwg yn hanfodol, ond y tu hwnt i hynny maen nhw wedi bod yn dda iawn ar roi nodiadau ar yr adeg iawn a gadael i ni fwrw ymlaen â’r gwaith pan oedd angen i ni wneud hynny. Mae cael cymorth ymarferol gan dîm ymatebol yn Ffilm Cymru wedi ein helpu ni i gael y ffilm yn barod i’w darlledu. Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â phrosiectau posib i’r dyfodol.

Beth fuoch chi’n gwylio yn ystod cyfnod y cloi?
Georgia: Fel pawb arall yn y wlad, fe wnes i gael fy syfrdanu gan yr anhygoel Michaela Coel ac I May Destroy You. Mae Michael Jordan and The Last Dance wedi ysbrydoli angerdd newydd at ailddarllediadau clasurol yr NBA a siwtiau’r 90au. Rwy newydd ail-wylio Paper Moon gan Peter Bogdanovich, ac mae’n bosib mai dyma un o’r ffilmiau gorau i gael ei chreu erioed... roedd yn gwneud i mi fod eisiau cyfarwyddo ffilm mor dda â hi!  

Hannah: Cytuno â’r holl ganmoliaeth i Michaela Coel / I May Destroy You. Ro’n i’n dwlu ar y gyfres, ac arni hi. Ro’n i hefyd yn cysuro fy hun â ffefrynnau o gomedïau o’r gorffennol yn ystod cyfnod y cloi. Roedd Flowers gan Will Sharpe yr un mor drawiadol yr ail dro. Fe wnes i brynu taflunydd ac rwy wedi bod yn mwynhau ffilmiau ar wal fy ystafell wely, yn absenoldeb y sinema. Mae The Last Picture Show (eto gan Peter Bogdanovich, fel mae’n digwydd) yn ffefryn newydd gen i.

Ar beth ydych chi’n gweithio’n awr?
Georgia: Rydyn ni’n gweithio ar amrywiaeth o brosiectau teledu a ffilm. Mae rhai’n cael eu datblygu ac eraill yn newydd sbon. Ond yn bennaf rwy’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â dechrau ar ffilm nodwedd i Hannah a mi ei chreu gyda’n gilydd.
Hannah: Amen i hyn!

a portrait of georgia lee and hannah daniel

Cynhyrchwyd Burial gan Liz Kessler drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI mewn cyswllt â BBC Cymru.