catrin stewart in the arborist, lookign up at a forest of trees

Cwrdd â gwneuthurwyr Beacons: Clare Sturges

Mae ffilm fer Clare Sturges, The Arborist, yn ddrama deimladwy gyda Catrin Stewart yn serennu fel menyw sy’n gorfod goresgyn y galar a’r euogrwydd dwys y mae’n eu rhannu gyda’i brawd Joe (Rhodri Meilir) sy’n ddieithr iddi bellach, cyn y gall ollwng gafael ar eu chwaer a fu farw.

Cyn y darllediad, buom yn siarad gyda Clare ynglŷn â’r hyn a fu’n ei hysbrydoli, ei phrofiadau a’u chynlluniau i’r dyfodol.

Haia Clare, allwch chi sôn ychydig amdanoch eich hun?
Rwy’n awdur gyfarwyddwr o Bontypridd yng nghymoedd y de. Fe wnes i ddechrau ymddiddori mewn creu ffilmiau pan oeddwn i’n 30 oed, pan ofynnwyd i mi ysgrifennu sgriptiau ar gyfer asiantaeth hysbysebu. Ers hynny rwy wedi creu amrywiaeth o ffilmiau byrion, dwy ffilm ddogfen ffurf hir, ac enillodd un o’r rhain Wobr Torri Drwodd BAFTA Cymru 2015, a My Brief Eternity, ffilm ddogfen a gyrhaeddodd restr hir BIFA a BAFTA ac a enillodd Wobr Ffilm Fer BAFTA Cymru 2016. Fy ffilm gyntaf oedd The Audition yn 2010, sydd yn ffilm fer tafod-mewn-boch am lofruddiaeth erchyll sy’n trafod peryglon cenfigen, cystadleuaeth ac uchelgais gormodol ymysg actorion. (Mae ar Vimeo ac mae ganddi dudalen Facebook sy’n dal i wneud i mi chwerthin hyd heddiw – ewch i gael golwg.)

Beth wnaeth eich ysbrydoli i greu The Arborist?
Fe ges i fy ysbrydoli gan ffilm nodwedd annibynnol Rachel Tunnard, Adult Life Skills sydd â Jodie Whittaker yn serennu. Ffilm gomedi yw hi am efeilles sydd wedi colli gefell, a’r argyfwng dirfodol sy’n deillio o hynny. Fe wnes i chwerthin a llefain gymaint wrth wylio’r ffilm honno o res gefn ein sinema gelfyddydol leol, fel fy mod i’n meddwl y byddwn i’n creu llifogydd rhwng i lawr drwy’r rhesi. Doeddwn i erioed wedi gweld ffilm am golli gefell ac fe wnaeth fynd drwy fy nghanol fel cyllell: fe wnes i golli fy ngefell Eli yn 21 oed. Fe ges fy ysbrydoli a fy nghalonogi i ysgrifennu ffilm sy’n archwilio fy safbwynt i ar y profiad o golli gefell, a The Arborist yw sut daeth y cyfan ynghyd.

Mae cast gwych yn y ffilm; sut aethoch chi ati i ddod o hyd i’r actorion iawn i’r cymeriadau?
Roeddwn i wedi gweld Catrin Stewart yn ffilm nodwedd annibynnol Euros Lyn, The Library Suicides – ac fe wnaeth awdur y ffilm, Fflur Dafydd, ei hargymell hi i fi. Mae Catrin yn efeilles ei hun ac roedd y themâu yn The Arborist yn ei chyffwrdd yn syth. Roeddwn i wedi gweld Rhodri Meilir yn nrama Craith/Hidden y BBC ac fe wnaeth cynhyrchydd y gyfres honno ei argymell i mi – fe wnes i fwynhau ei berfformiad fel dyn  cythryblus, llawn gwrthdaro, ac ro’n i’n meddwl y byddai ei lonyddwch myfyriol yn wych ar gyfer cymeriad Joe.

Sut brofiad oedd y newid o greu ffilmiau dogfen i greu ffilmiau ffuglen?
Roedd yn teimlo’n iawn i mi i ddatblygu fy ffilm ddrama drwy Beacons o brofiad go iawn gan fod y rhan fwyaf o fy mhrofiad yn creu ffilmiau wedi bod ym myd dogfen yn adrodd storïau pobl eraill. Mae llawer yn gyffredin rhwng dogfen a drama; yn y ddwy, rydych chi’n ceisio anrhydeddu’r stori a’r cymeriadau dan sylw, er mwyn dod o hyd i’r elfennau dramatig sy’n amlygu ac archwilio natur gwirionedd, gan geisio hefyd roi adloniant a chynnal diddordeb drwy ddod o hyd i’r hyn sy’n gyffredin ym mhrofiadau penodol pobl a’r anawsterau mae pobl yn eu hwynebu.

Pa fath o gymorth roddodd Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI i chi?
Rwy’n ddiolchgar i Ffilm Cymru Wales a’r BFI/BBC am y berthynas rydyn ni wedi’u datblygu a’r nodiadau a’r gefnogaeth maen nhw wedi rhannu, yn arbennig Kimberley Warner, a fugeiliodd y prosiect drwy amryw anawsterau ar hyd y ffordd. (Cymrodd dair blynedd i greu The Arborist o’r cysyniad i’r ffilm derfynol.) Rwy mor falch o fod wedi cael gweithio gyda’r holl bobl dalentog, ymroddgar ar ein cynhyrchiad. Oherwydd y cyllid, roedd modd i ni weithio gyda rhai o’r goreuon o blith y criw proffesiynol gwirioneddol wych sydd gan Gymru i’w gynnig.

Beth fuoch chi’n gwylio yn ystod cyfnod y cloi?
Rhaglenni am droseddau go iawn neu ddramâu trosedd fu fy nhri ffefryn yn ystod cyfnod y cloi am na allaf i gael digon ohono: Unbelievable, Who Killed Little Gregory? a Boy A.

Beth sydd gennych chi ar y gweill nesaf?    
Rwy’n datblygu ffilm nodwedd am lofruddiaeth erchyll adnabyddus a gafodd ei chyflawni yma yng Nghymru yn yr wythdegau. Archwiliad dynol yw hi am euogrwydd a myfyrdod ar natur anfadrwydd. Mae’n datgelu ôl-effeithiau trosedd drasig drwy lygaid y llofrudd, a lwyddodd i osgoi Cael ei ddal am flynyddoedd.

portrait of clare sturges

Cynhyrchwyd The Arborist gan Keiran McGaughey yng Nghynyrchiadau Like An Egg drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru a RHWYDWAITH y BFI mewn cyswllt â BBC Cymru.