still from doss house featuring a teenaged girl sitting on a pile of old wooden furniture and holding a bottle of vodka

Cwrdd â gwneuthurwyr Beacons: Charlotte James

I ddathlu darllediad diweddaraf y BBC o’r ffilmiau byrion cafodd eu gwneud drwy ein cynllun Beacons, mae Ffilm Cymru Wales am rannu cyfweliadau sy’n cyflwyno’r gwneuthurwyr ffilm newydd o Gymru fu’n gyfrifol am wneud y ffilmiau.

Mae drama dyfod-i-oed Charlotte James, Doss House, yn archwilio profiadau cyfeillgarwch a rhamant dwy ferch yn eu harddegau, a sut mae bywyd pobl ifanc sydd ar fin camu dros y trothwy i fod yn oedolion, yn cael ei hidlo drwy lens chwant gwrywaidd.

Cyn y darllediad, bu i ni sgwrsio gyda Charlotte am fanteision ac anfanteision gwneud ffilm fer, ac am bwysigrwydd amser a lle.

Helo Charlotte, alli di ddweud rhywfaint wrthym amdanat ti dy hun?  
Rwyf wedi bod yn gweithio’n bennaf ar brosiect cydweithredol gyda Clementine Schneiderman, a gyda’n gilydd rydym wedi datblygu prosiect ffotograffiaeth cymunedol o’r enw Bleak Fabulous, sy’n rhan o archif Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Rwyf wedi cyfarwyddo rhai prosiectau sy’n ymwneud â’r ddelwedd symudol yn barod, ond Doss House oedd y darn naratif cyntaf i mi ei ysgrifennu a'i gyfarwyddo. Mae ysgrifennu a chyfarwyddo bob amser yn rhywbeth roeddwn i'n bwriadu ei wneud, a dyma benderfynu mynd amdani  a gwneud cais i Beacons.
 
Sut brofiad oedd gwneud Doss House
Roedd yn brofiad anhygoel ac un y byddai’n ei gofio am byth. Roedd medru gwneud ffilm yn fy nhref enedigol, a gweithio gydag actorion lleol yn arbennig iawn.

Beth oedd fwyaf heriol am y broses, a beth wnes di ei fwynhau fwyaf?
Rwy'n meddwl bod addasu'r stori ar gyfer amserlenni’r diwrnodau saethu yn dipyn o her. Roedd gennym tipyn go lew o waith i’w gyflawni, ac roedd rhaid rhaid saethu mewn llawer o leoliadau gwahanol, felly roedd rhaid torri rhai rhannau i lawr, a bu i ni dorri talp mawr ohoni wrth olygu felly roedd gollwng rhai rhannau yn ystod y broses yn rhywbeth oedd rhaid i mi ddod i arfer ag ef.

Roedd cydweithio gyda’r actorion yn brofiad gwerthfawr iawn. Cawsant eu castio gyda chymorth Hannah Williams o gwmni gastio HMW. Roeddem yn chwilio am bobl ifanc dosbarth gweithiol o’r Cymoedd, a bu i ni gwrdd â rhai neilltuol yn ystod y gweithdai a gynhaliwyd gan Hannah. Bu i ni gastio dwy fenyw ifanc arbennig iawn, Grace Meaden ac Ellie Minard, oedd heb actio o'r blaen, heblaw am yn yr ysgol. Gwnaethom hefyd gastio hen ffrind i mi, Cameron Jones, oedd yn rhagorol. Treuliais lawer o amser gyda nhw yn ystod yr haf yn datblygu'r sgript, ac roeddwn wrth fy modd â'r broses gydweithredol yma, a chael eu barn nhw am y stori a'r iaith, gan sicrhau bod y cyfan yn ddilys i mi ac iddyn nhw.

Pam wnes di ddewis lleoli’r ffilm yng Nghymoedd De Cymru?  
Y Cymoedd yw nghartref i. Rwyf wedi gwneud fy holl waith personol yma, felly roedd yn gam naturiol i fod eisiau adrodd straeon am fyd cyfarwydd ochr yn ochr â nghymuned i. Mae'r stori wedi'i seilio'n fras ar brofiadau gefais i yn fenyw ifanc. Rwy’n meddwl fod y stori’n gyffredin i nifer o ferched wrth iddynt dyfu i fyny.

Pa fath o gefnogaeth ges di gan Ffilm Cymru Wales & RHWYDWAITH y BFI? 
Roedd Ffilm Cymru’n gefnogol iawn drwy gydol datblygiad Doss House. Gan roi nodiadau sgript, a gwirio popeth gyda mi wrth i'r prosiect ddatblygu. Roeddent wrth law bob amser os oedd unrhyw beth yn codi yn ystod y cyfnod cyn-gynhyrchu a'r golygu, oedd yn ddefnyddiol iawn i mi, gan wrando’n astud ac ymateb i bob cwestiwn neu bryder oedd gennyf.

Beth sydd ar y gweill nesaf?  
Rwy’n astudio ar gwrs ysgrifennu byr ar gyfer y sgrîn yn NFTS, ac yn datblygu syniad ar gyfer ffilm nodwedd gyda chwmni cynhyrchu. Mae’n stori am dair cenhedlaeth o fenywod o’r Cymoedd, a’r cymhlethdodau sy’n bodoli rhwng y gwahanol genedlaethau, a sut mae amgylchiadau a phwysau cymdeithasol y dosbarth gweithiol yn effeithio arnynt. Rwyf hefyd yn gweithio ar syniad ar gyfer ffilm fer gyda'r tîm yn RAPT Productions a gynhyrchodd Doss House.

Photo of Charlotte James standing in front of a shop window with a striped awning

Cynhyrchwyd Doss House gan Maisie Williams a Lowri Roberts (Rapt) drwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH y BFI mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales. Gallwch ei gwylio ar BBC Two ar 18 Hydref.