a montage of film stills featuring The Toll, Six Minutes to Midnight, Dream Horse, Men Who Sing, Censor and Rare Beasts

Blwyddyn Ffilm Cymru ar sgrîn

O ffilm gomedi hyfryd i ffilm arswyd waedlyd, cafodd llu o ffilmiau a ariannwyd gan Ffilm Cymru eu rhyddhau yn 2021, ac erbyn hyn maent ar gael i’w gwylio gartref dros gyfnod y Nadolig. 

Dream Horse

Dream Horse yw ail ffilm y cyfarwyddwr Cymraeg Euros Lyn (Y Llyfrgell / The Library Suicides). Mae’n adrodd stori wir a rhyfeddol Jan Vokes, menyw lanhau sydd hefyd yn gweithio mewn bar, sy’n penderfynu, ar amrantiad, ei bod am fagu ceffyl rasio mewn penref bach yng Nghymru. Mae’n perswadio ei chymdogion i fuddsoddi yn ei chynllun gwallgof, ac ar y cŷd maent yn enwi’r ebol newydd yn ‘Dream Alliance’. Gyda’r mymryn lleiaf o brofiad ond â chalonnau enfawr mae’r pentrefwyr yn dilyn ‘Dream’, sydd, yn gwbl groes i’r disgwyl, yn codi drwy’r rhengoedd, ac yn eu gosod benben â’r elît rasio mewn pencampwriaeth genedlaethol gyffrous.

Bu i Dream Horse, gyda Toni Collette, Damian Lewis, Owen Teale a Joanna Page, garlamu i sinemâu’r DU yr haf hwn drwy Warner Bros UK.

poster for dream horse

Censor

Pan mae’r sensor ffilm Enid (Niamh Algar) yn darganfod ffilm arswyd ddychrynllyd sy’n siarad yn uniongyrchol â hi ynglŷn â diflaniad rhyfedd ei chwaer, mae’n penderfynu datrys y pôs sydd y tu ôl i‘r ffilm a’r cyfarwyddwr enigmatig – bydd ei siwrnai’n cymylu’r llinell rhwng ffuglen a realiti mewn ffyrdd dychrynllyd.

Wedi ei thrwytho yn estheteg ogoneddus yr 1980au, llythyr caru gwaedlyd yw ffilm nodwedd gyntaf Prano Bailey-Bond i ‘fideos ffiaidd’ VHS clasurol y gorffennol. Fe’i rhyddhawyd yn sinemâu’r DU ym mis Awst gan Vertigo Releasing.

poster for censor

Six Minutes to Midnight

Awst 1939 ac mae’r Ail Ryfel Byd ar ddigwydd. Mae prif swyddogion y Natsïaid wedi gyrru eu merched i dref glan môr yn Lloegr i ddysgu Saesneg ac i weithredu fel llysgenhadon y dyfodol. Mae’r athro Thomas Fisher yn sylweddoli beth sy’n ddigwydd, ond a fydd rhywun yn fodlon gwrando?

Gydag Eddie Izzard a Judi Dench, cafodd ffilm gyffrous Mad as Birds Films ei dangos ar Sky Cinema ym mis Mawrth, cyn ei rhyddhau i sinemâu’r DU.

poster for six minutes to midnight

Rare Beasts

Mae Mandy yn fam, yn awdur, yn nihilydd. Mae Mandy yn fenyw gyfoes mewn argyfwng. Mae’n magu ei mab, Larch, yng nghanol cyfnod o chwyldro benywaidd, ac yn archwilio poen ei rhieni sydd wedi gwahanu, ac ysgrifennu’n broffesiynol am gariad nad yw’n bodoli mwyach. Mae’n taro ar ddyn anniddig, Pete, sy’n chwilio am synnwyr o werth, o berthyn ac sy’n ceisio ‘adennill’ ei hunaniaith fel dyn.

Cafodd y ffilm ddewr hon, y ffilm gyntaf i Billie Piper ei chyfarwyddo, ei chynhyrchu gan Western Edge Pictures, a’i rhyddhau ym mis Mai gan Republic Film Distribution.

poster for rare beasts

The Toll

Croeso i Orllewin Gwyllt Cymru! Ar arfordir Sir Benfro mae gŵr yn gweithio ar ei ben ei hun yn nhollborth tawelaf Cymru. Mae hefyd yn cuddio rhag orffennol troseddol ble fyddai neb yn breuddwydio edrych. Wrth i’w orffennol ddal i fyny ag ef a chwalu ei heddwch, mae’n cael cymorth criw o drigolion go ryfedd (gan gynnwys menyw sy’n dynwared Elvis, tripledi afreolus a ffermwyr defaid anfodlon) a phan mae amehuon y blismones lleol Catrin yn tyfu fwyfwy…

The Toll yw ffilm nodwedd gyntaf yr awdur Matt Redd a’r cyfarwyddwr Ryan Andrew Hooper. Mae’r ffilm yn ddifyr, yn glyfar dros ben ac yn llawn comedi tywyll. Yn serennu ynddi mae Michael Smiley (Kill List, Luther, Censor), Annes Elwy (Little Women, Gwledd / The Feast), Iwan Rheon (Game Of Thrones) a Paul Kaye (The Ghoul).

poster for the toll

Men Who Sing

Mae’r Côr Meibion yn sefydliad Cymreig ac yn symbol pwysig ledled y byd. Ond mae’r sefydliad mewn argyfwng gyda’r niferoedd yn disgyn a’r aelodau yn heneiddio.

Mae dogfen deimladwy Dylan Williams yn adrodd hanes un côr sy’n gwrthod rhoi’r gorau iddi’n dawel…

poster for men who sing

 

Ac yn dod yn fuan gan Ffilm Cymru…

 

Save the Cinema

Wedi ei lleoli yn y 90au, mae Save The Cinema wedi ei hysbrydoli gan fywyd Liz Evans, (Samantha Morton), menyw trin gwallt a chalon cymuned leol tref fechan yng Nghaerfyrddin. Ei thasg yw ceisio arbed Theatr y Lyric rhag cael ei dymchwel a’i throi’n ganolfan siopa. Gyda’r bygythiad yn dod yn fwyfwy tebygol, mae Liz a’i ffrindiau’n cau eu hunain i mewn yn y sinema, a gyda chymorth y postmon sydd hefyd yn gynghorydd lleol, Richard (Tom Felton), maent yn dyfeisio cynllwyn ysbrydoledig.  

I adfywio’r sinema ac i stopio’r cyngor rhag dwyn calon y gymuned, mae Liz yn llwyddo i berswadio Richard i yrru llythyr i Hollywood yn gofyn am gymorth. Galwad ffôn yn ddiweddarach mae gwneuthurwr ffilm dylanwadol yn cytuno gwneud cynnig arbennig iawn i Gaerfyrddin, ond a fydd hwn yn helpu achub dyfodol Y Lyric?

Bydd drama ddoniol Sara Sugarman yn cael ei rhyddhau mewn sinemâu ac ar Sky Cinema o 14eg Ionawr 2022.

Gwledd / The Feast

Mae’r ffilm arswyd gyfoes Gymraeg hon, Gwledd (The Feast), yn digwydd dros un noson wrth i deulu cyfoethog ddod at ei gilydd i gael swper ysblennydd yn eu tŷ crand yng nghanol mynyddoedd Cymru. Mae’r gwesteion yn cynnwys ffarmwr cyfagos, a’r bwriad yw sicrhau dêl busnes i gloddio’r wlad o amgylch. Pan mae menyw ifanc ryfedd yn cyrraedd i weini arnynt, mae credoau a gwerthoedd y teulu’n cael eu herio wrth i’w phresenoldeb tawel, rhyfedd ddechrau dylanwadu ar eu bywydau. Yn araf, yn bwrpasol a gyda’r canlyniadau mwyaf erchyll.

Dyma ffilm nodwedd gyntaf yr awdur Roger Williams a’r cyfarwyddwr Lee Haven Jones. Yn serennu ynddi mae Annes Elwy (Little Women), Nia Roberts (Under Milk Wood) a Julian Lewis Jones (Justice League), ochr yn ochr â Steffan Cennydd (Last Summer) a Sion Alun Davies (The Left Behind).

Bydd Gwledd / The Feast yn cael ei rhyddhau yn y DU gan Picturehouse Entertainment yng Ngwanwyn 2022.