collage of still from short films and the Ffolio logo

Ar gael i’w gwylio: ffilmiau cyntaf gan dalent creadigol yng Nghymru

Mae’r ffilmiau byr cyntaf i gael eu cynhyrchu drwy ein cynllun Ffolio gyda BBC Arts, BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru ar gael i’w gwylio fan yma.

Mae Ffolio yn cynnig cyfleoedd hyfforddi, mentora a chomisiynu'r BBC i bobl greadigol yng Nghymru sydd heb brofiad proffesiynol ym maes ffilm, teledu na radio. Boed yn ddawnswyr, blogwyr, cerddorion, awduron, ffotograffwyr, artistiaid graffiti, dylunwyr gemau, pypedwyr, perfformwyr syrcas neu animeiddwyr, mae Ffolio yn gyfle newydd i bobl yng Nghymru ddathlu eu creadigrwydd.

Ar ôl cael eu dangos am y tro cyntaf ar BBC Four, mae'r ffilmiau gwych cyntaf a wnaed drwy Ffolio bellach ar gael i'w gwylio ar iPlayer a gallwch eu gweld fel casgliad fan yma.

In a Room Full of Sisters

Mae'r ffotograffydd Ashrah Suudy yn archwilio cryfder chwaeroliaeth yn y gymuned Somali yng Nghaerdydd. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar y Dirac, gwisg Somali liwgar a llac sy'n cael ei gwisgo'n draddodiadol gan fenywod ar achlysuron arbennig fel Eid a phriodasau. Fan yma, gwelwn fenywod Somalïaidd ifanc yn arddangos y Dirac yn erbyn cefndir Butetown, Grangetown a Cathays, wrth iddyn nhw ddarllen barddoniaeth gan Ashrah ar bŵer a phwysigrwydd dathlu eich diwylliant yn ddiymddiheuriad.

Cardiff, I Love You

Ar ddiwrnod llwyd yn y brifddinas, mae barman ifanc yn eistedd yn breuddwydio am fywyd mwy disglair a mwy bywiog. Mae ei fyd yn ymddangos yn ddiflas ac undonog, heb yr hudoliaeth y mae'n ei gweld yn ei ddychymyg. Daw cwsmer newydd i darfu ar ei freuddwydion, ac mae'r barman yn dechrau ar daith o ddarganfod sy'n caniatáu iddo ddod o hyd i fyd newydd a bydolwg newydd. Wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Lloyd Glanville.

Skinny Fat

Mae dyn hoyw yn wynebu ei ganol boliog mewn ystafell newid siop, gan wneud iddo ail-fyw perthynas flaenorol o gam-drin. Ond pwy all ei achub rhag ei gorff ei hun? Wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan yr actor Mathew David, mae Skinny Fat yn ddrama gomedi LHDTC+ sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau bywyd go iawn.

Feeding Grief to Animals

Wedi'i chreu gan yr awdur, y bardd a'r cyhoeddwr Rebecca Parfitt, mae Feeding Grief to Animals yn archwiliad cignoeth o'i phrofiad dinistriol personol ei hun o gamesgoriad a cholli babi. Animeiddiad byw yw'r ffilm, sy'n cael ei hadrodd drwy gyfrwng pypedau cysgod wedi'u creu gan Theatr Byd Bychan.

Daughters of the Sea

Mae'r ddawnswraig bale Krystal S. Lowe yn ail-ddychmygu'r chwedl Gymreig hon drwy gyfrwng dawns fodern mewn lleoliadau ledled Cymru. Cafodd Krystal ei hyfforddi yn y Somerset School of Dance yn Bermuda ac mae bellach yn perfformio fel rhan o gwmni Ballet Cymru, yn Ddarlithydd Cyswllt ym Mhrifysgol De Cymru, ac yn creu ei chomisiynau coreograffig ei hun.

 

Silent Pride

Silent Pride, written and directed by Kristy Philipps, is a Welsh LGBTQ+ coming of age short film. Set on the outskirts of a teenage house party, Sammy (played by Kristy Philipps) discovers a connection with Ffion (Rhiannon Jones) that pushes her to question her sexuality.

 

The Golden Apple

The Golden Apple, written and directed by Hanan Issa, is a Welsh magical realist drama. Hasan, and his older brother Lutfi, find a golden apple growing on a tree in their local park. The internet says that golden apples grant eternal happiness to anyone who eats it.

Bydd rhagor o ffilmiau a gweithiau celf sain Ffolio ar gael i’w gwylio fan hyn yn fuan.