timestalker and five portrait photos of the cast members

Alice Lowe yn saethu ei ffilm newydd Timestalker

Bydd Alice Lowe yn serennu ochr yn ochr a Jacob Anderson, Aneurin Barnard, Tanya Reynolds a Nick Frost.

Alice Lowe yw’r awdur, y cyfarwyddwr a hi hefyd sy’n chwarae’r brif ran. Yn ymuno â hi mae cast ensemble dawnus: Jacob Anderson (INTERVIEW WITH THE VAMPIRE), artist cerddorol AKA “Raleigh Ritchie”, Aneurin Barnard (DUNKIRK), Tanya Reynolds (SEX EDUCATION), a Nick Frost (HOT FUZZ, PAUL).

Yn ymuno â’r prif gast hefyd mae Kate Dickie (THE WITCH), Dan Skinner (HIGH-RISE), Mike Wozniak (MAN DOWN). Bu iddynt oll serennu yn y ffim gyntaf i Lowe ei chyfarwyddo, PREVENGE, a ddangoswyd yn Fenis, TIFF, Llundain, AFI & SXSW. Unwaith eto bydd TIMESTALKER yn cyflwyno synnwyr digrifwch tywyll, unigryw Lowe i gynulleidfaoedd ffilm yn 2023.

Mae TIMESTALKER yn dilyn yr arwres anffodus Agnes (Alice Lowe) drwy amser wrth iddi gwympo mewn cariad â’r dyn anghywir dro ar ôl thro, cyn marw mewn ffordd ddychrynllyd, a chodi o farw’n fyw ganrif yn ddiweddarach, a chyfarfod â’r dyn unwaith eto - ac mae’r cylch yn dechrau o’r dechrau. Un stori sydd yma, un stori yn cael ei hadrodd dros sawl cyfnod, stori llawn gwefr a chyffro ddaw yn sgil bod yn ddigon beiddgar i ddilyn eich calon. Neu efallai eich lwynau...

Bydd y cast yn ailymddangos ym mhob un o’r cyfnodau hanesyddol a ddarlunnir yn y ffilm gomedi rhamantus yma, wrth iddynt deithio’n chwareus drwy amser. Bydd cynulleidfaoedd yn mwynhau gweld  Agnes, arwres Alice, yn dilyn ei chariad drwy bob cyfnod o’i bywyd, drwy wahanol adegau mewn hanes ac hyd yn oed yn y dyfodol: Gorllewin yr Alban yn y 1680au; 1790au yn Lloegr Wledig; Manhattan yn y 1980au; a'r 22ain Ganrif apocalyptaidd.

Gyda TIMESTALKER, mae Alice yn gweithio unwaith eto â chynhyrchydd Cymreig PREVENGE, Vaughan Sivell ac â  Western Edge Pictures.

Mae TIMESTALKER yn gyd-gynhyrchiad â Popcorn Group, ac yn cael ei ariannu gan y BFI (sy’n dyfarnu arian y Loteri Genedlaethol), Head Gear Films, Popcorn Group a Ffilm Cymru Wales gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.

Hanway Films sy’n berchen ar yr hawliau byd-eang, a byddant yn rhannu deunyddiau am TIMESTALKER yn yr AFM (1 – 6 Tachwedd).

“Mae hwn yn brosiect mor hudolus sydd wedi dod at ei gilydd ar yr adeg perffaith, gyda’r cast a’r criw perffaith. Rydym yn mynd ar y daith yma drwy amser gyda’n gilydd, ac mae’n deimlad cwbl eithriadol.”
Alice Lowe, Awdur, Cyfarwyddwr ac Actor

“Mae’n wych cael saethu’r antur newydd hon gydag Alice a’r cast anhygoel yma. Fedrai ddim aros i gynulleidfaoedd brofi ei fersiwn hi o hanes!”
Vaughan Sivell, Cynhyrchydd.

Timestalker yw y prosiect cyntaf i’w gefnogi gan Gronfa Gynhyrchu ffilm Ffilm Cymru Wales a Cymru Greadigol.

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd y byddai cyllid cynhyrchu Cymru Greadigol ar gyfer ffilm yn cael ei drosglwyddo drwy Ffilm Cymru Wales, a hynny drwy gydweithrediad newydd ar gyfer ffilmiau nodwedd annibynnol gyda thalent o Gymru yn ganolog iddo. Bydd Ffilm Cymru Wales yn gweinyddu’r gronfa newydd o £1miliwn y flwyddyn am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd, fydd yn cael ei integreiddio â’u harian Loteri Cenedlaethol sy’n cael ei ddirprywo iddynt gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gall cynhyrchwyr nawr gael hyd at £600,000 y prosiect yn sgil un broses ymgeisio, yn amodol ar asesiad o’r manteision i Gymru, gan gynnwys talent o Gymru, gwariant yng Nghymru, hyfforddiant a manteision strategol.

Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon: “Rwy’n falch iawn o weld y gwaith ffilmio ar gyfer Timestalker yn mynd rhagddo yng Nghaerdydd - ffilm yn cael ei gwneud yng Nghymru gan Western Edge Pictures, a’r ffilm gyntaf sydd wedi ei gwireddu yn sgil y Gronfa Gynhyrchu newydd ar gyfer Ffilmiau Nodwedd.

Ychwanegodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol: “Mae cyfuno cyllid Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, sy’n creu ffordd symlach i wneuthurwyr ffilm annibynnol gael mynediad at y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Fel gyda’n cyllid cynhyrchu arall, mae gwella mynediad i dalent Cymreig a chyfleoedd i hyfforddiant yn flaenoriaeth allweddol, ac roeddwn yn falch o weld wyth o bobl yn cael eu hyfforddi ar y ffilm hon. Edrychaf ymlaen at weld mwy o ffilmiau cyffrous yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.”

Meddai Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru: “Mae’n wych gweld cynhyrchwyr yn chwarae eu rhan yn y gwaith o feithrin gallu’r sector a hyrwyddo arferion gwaith, gan fabwysiadu’n llwyr werthoedd cynaliadwyedd y Gronfa Cynhyrchu Ffilmiau Annibynnol. Ar Timestalker, bu i Western Edge Pictures recriwtio pobl i’w hyfforddi mewn nifer o adrannau - sgript, sain, camera a lleoliadau - gan ganolbwyntio fod pawb yn y cast a’r criw yn cael profiad cadarnhaol, yn dysgu oddi wrth ei gilydd, ac yn rhannu’r hyn a ddysgwyd â’r sector ehangach.”

dafydd rhys, pauline burt, gerwyn evans and vaughan sivell posing for a photo on the set of timestalker