photo of a person looking through a camera

Strategaethau Ymarferol i Fynd i’r Afael â Bwlio ac Aflonyddu

19th January 2023, 6:00

Dyma sesiwn i awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr sy'n gweithio ar ffilmiau nodwedd neu ffilmiau byrion ar bob lefel o brofiad sy'n awyddus i ddeall y gyfraith ynghylch bwlio ac aflonyddu. 

Bydd yr hyfforddiant hwn yn nodi enghreifftiau cyffredin o fwlio ac aflonyddu er mwyn sicrhau bod cyfranogwyr yn deall cwmpas llawn y termau hyn. Byddwn wedyn yn nodi camau rhagweithiol i reoli'r ymddygiad hwn yn ffurfiol ac yn anffurfiol ac yn rhoi arweiniad ymarferol a moesegol ar ymdrin â chŵyn. 

Bydd y cyfranogwyr yn gadael y sesiwn hon gyda dealltwriaeth gyffredinol o'r gyfraith, yr ymddygiadau dan sylw a ffyrdd i ddad-ddwysáu ac uwchgyfeirio unrhyw gwynion:

  • Diffiniadau o fwlio ac aflonyddu ar wahân
  • Enghreifftiau o fwlio ac aflonyddu (rhai amlwg ac anamlwg)
  • Technegau dad-ddwysáu
  • Prosesau uwchgyfeirio 

Trafodaeth drwy gyfrwng y Saesneg fydd hon, a bydd yn cynnwys capsiynau byw a dehongli BSL. Os hoffech fod yn rhan o’r sesiwn a bod gennych unrhyw ofynion mynediad ychwanegol, cysylltwch â Tracy Spottiswoode ar tracy@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 07902 492109 i drafod yn gyfrinachol.

Michelle White (MSc MAPPCP MBPsS)

Cyd-gyfarwyddwr | Seicolegydd | Hyfforddwr

Mae gan Michelle MSc mewn Seicoleg Bositif Gymhwysol a Seicoleg Hyfforddi ac mae'n gweithio gydag unigolion a sefydliadau i ddatblygu'r dulliau ystyrlon, gwydn ac iach sy'n sail i amgylcheddau gwaith creadigol, hapus a chynaliadwy.

Mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad o arwain timau yn y sector digwyddiadau ffilm ac arddangosfeydd ar gyfer sefydliadau, fel y BFI, Gŵyl Ffilm Llundain a DDA Live. Mae Michelle hefyd yn Gymrawd gwadd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, am ei gwaith yn datblygu talent ifanc sy'n dod i'r amlwg yn y diwydiant ffilm.

Cyfrannodd Michelle at ddatblygu egwyddorion gwrth-fwlio BAFTA/BFI yn y diwydiannau sgrin a Phecyn Cymorth Cynyrchiadau sy’n Iach yn Feddyliol ar gyfer y Film and TV Charity. Mae'n gweithio'n rheolaidd gyda sefydliadau fel BECTU, The Film and TV Charity, Sgiliau Sgrin, BAFTA, Google, NEO Leaders ac Ysgol Fusnes INSEAD. Mae'n aelod o Gymdeithas Seicolegol Prydain ac yn Athro Ymwybyddiaeth Ofalgar ac Ymarferydd Hyfforddi Cryfderau achrededig.

Pan nad yw’n gweithio, mae'n hoff iawn o ffilmiau, darllen, podlediadau, anifeiliaid, paneidiau, blancedi cynnes, heicio, natur, traethau heulog, straeon ysbrydion, brinio a rhedeg.

6Fft From The Spotlight

Mae CULT Cymru (Creative Unions Learning Together) yn rhaglen ddysgu a gefnogir trwy Gronfa Dysgu Undebau Cymru (WULF) Llywodraeth Cymru. Fe’i sefydlwyd yn 2008 ac fe’i rheolir gan Bectu, mewn partneriaeth ag Equity, Undeb y Cerddorion ac Urdd Ysgrifenwyr Prydain.
6ftfrom.org