black and white photo of a person looking into a camera

Llywio a Chefnogi Iechyd Meddwl mewn Timau

17th January 2023, 10:00

Dan arweiniad Michelle White o 6FT From The Spotlight, bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ffyrdd i gefnogi iechyd meddwl aelodau'r criw sy'n gweithio yn y diwydiant ffilm.

Bydd yn ymdrin â'r arwyddion a'r symptomau cyffredin a allai gyflwyno pan fydd rhywun yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl a'r ystyriaethau y dylem eu gwneud wrth gefnogi'r gweithwyr hyn.  Bydd hyn yn cynnwys cyfrinachedd, fframweithiau diogelu, cyfeirio effeithiol, addasiadau rhesymol, sefydlu ffiniau iach a moesegol a chynnig rhai offer ymarferol i ymdrin â sgyrsiau anodd.

Dyma sesiwn i unrhyw un sy'n rheoli neu'n cydweithio mewn tîm sy'n dymuno deall sut i adnabod arwyddion anhwylderau iechyd meddwl cyffredin a gwybod pa gamau i'w cymryd i gyflawni eu gofynion dyletswydd gofal a gofalu'n rhagweithiol am unrhyw aelodau o'r tîm sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. 

Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylech allu:

  • Deall y darlun iechyd meddwl yn y sector ffilm a theledu yn y DU
  • Adnabod arwyddion o anhwylderau meddwl cyffredin
  • Defnyddio fframwaith diogelu defnyddiol
  • Dirnad sut i ddefnyddio cyfrinachedd, cyfeirio ac addasiadau rhesymol
  • Defnyddio offer gwrando a chwestiynu er mwyn rheoli sgyrsiau sensitif

Bydd y drafodaeth hon drwy gyfrwng y Saesneg a bydd yn cynnwys capsiynau byw a dehongli BSL. Os hoffech fod yn rhan o’r sesiwn a bod gennych unrhyw ofynion mynediad ychwanegol, cysylltwch â Tracy Spottiswoode ar tracy@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 07902 492109 i drafod yn gyfrinachol.

Michelle White (MSc MAPPCP MBPsS)

Cyd-gyfarwyddwr | Seicolegydd | Hyfforddwr

Mae gan Michelle MSc mewn Seicoleg Bositif Gymhwysol a Seicoleg Hyfforddi ac mae'n gweithio gydag unigolion a sefydliadau i ddatblygu'r dulliau ystyrlon, gwydn ac iach sy'n sail i amgylcheddau gwaith creadigol, hapus a chynaliadwy.

Mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad o arwain timau yn y sector digwyddiadau ffilm ac arddangosfeydd ar gyfer sefydliadau, fel y BFI, Gŵyl Ffilm Llundain a DDA Live. Mae Michelle hefyd yn Gymrawd gwadd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, am ei gwaith yn datblygu talent ifanc sy'n dod i'r amlwg yn y diwydiant ffilm.

Cyfrannodd Michelle at ddatblygu egwyddorion gwrth-fwlio BAFTA/BFI yn y diwydiannau sgrin a Phecyn Cymorth Cynyrchiadau sy’n Iach yn Feddyliol ar gyfer y Film and TV Charity. Mae'n gweithio'n rheolaidd gyda sefydliadau fel BECTU, The Film and TV Charity, Sgiliau Sgrin, BAFTA, Google, NEO Leaders ac Ysgol Fusnes INSEAD. Mae'n aelod o Gymdeithas Seicolegol Prydain ac yn Athro Ymwybyddiaeth Ofalgar ac Ymarferydd Hyfforddi Cryfderau achrededig.
 

6Fft From The Spotlight

Ffurfiwyd 6ft From The Spotlight yn gwmni buddiannau cymunedol nid-er-elw, sy'n hybu newid cadarnhaol yn y diwydiannau creadigol. Ei nod yw gwella iechyd meddwl a lles holl weithwyr y diwydiant creadigol drwy hyfforddiant, addysgu ac eirioli dros weithleoedd sy'n gadarnhaol, yn iach, yn greadigol, yn gynhyrchiol ac yn cydymffurfio â'r gyfraith bresennol ar iechyd meddwl yn y gweithle.
6ftfrom.org