a still from stuffed featuring a man, who is dead and stuffed, and a woman sitting up in bed.

Gweminar Beacons: Ffuglen Gweithredu Byw

27th April 2021, 4:00

Ydych chi’n wneuthurwr ffilmiau sy’n dod i’r amlwg, wedi eich geni neu’n seiliedig yng Nghymru, ac yn dyheu i greu eich campwaith cyntaf o ffilm fer wedi’i hariannu gan y diwydiant? Neu’n dymuno cydweithio â chyfarwyddwr o Gymru ar brosiect newydd?

Ymunwch â Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI Cymru i gael gwybod mwy am gronfa ffilmiau byr Beacons, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales ac a fydd yn ailagor i dderbyn ceisiadau ym mis Ebrill 2021.

Yn ystod y weminar am ddim yma, cawn gwmni gwesteion arbennig a fu’n rhan o gynllun Beacons yn flaenorol – y cynhyrchydd Stella Nwimo a’r awdur-gyfarwyddwr Carys Lewis – a fydd yn rhannu eu profiadau eu hunain o greu ffilmiau byr gyda chymorth y gronfa.

Bydd wedyn gennych y cyfle i ddysgu mwy am Beacons, a chael cyngor ar sut i wneud i’ch cais sefyll allan. Bydd sesiwn Holi ac Ateb ar ddiwedd y digwyddiad.

Mae Beacons yn darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol, hyfforddiant a chyfleoedd mentora i helpu gwneuthurwyr ffilmiau i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae ffilmiau byr a gynhyrchwyd drwy’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus mewn gwyliau ffilmiau gan ennill nifer o wobrwyon, ac wedi’u darlledu ar BBC Cymru a’u rhyddhau ar iPlayer. Cewch wybod mwy am Beacons fan yma.

Noder ein bod yn cynnal digwyddiadau pellach sy’n canolbwyntio’n benodol ar Ffilmiau Dogfen ac Animeiddio. Fe’ch gwahoddwn i gofrestru i’r digwyddiad y teimlwch sydd fwyaf perthnasol i chi – wrth gwrs, mae croeso i chi gofrestru i sawl sesiwn wahanol.

Ynglŷn â’n gwesteion arbennig

Stella Nwimo

Mae Stella yn gynhyrchydd profiadol sydd wedi creu ffilmiau byr a nodwedd gan weithio gydag amrywiaeth o dalent creu ffilmiau o Gymru. Mae eu gwaith blaenorol yn cynnwys ffilmiau byr gyda chymorth Beacons, THINGS THAT FALL FROM THE SKY (wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Catherine Linstrum) ac EGG SOLDIER (wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Guymon Cheung). Yn ddiweddar, gwnaeth Stella gynhyrchu NUCLEAR, ffilm nodwedd gyntaf Catherine Linstrum, gyda chymorth Ffilm Cymru. Mae hefyd yn gweithio gyda’r awdur-gyfarwyddwr o Gymru, Tracy Spottiswoode ar ffilm fer newydd uchelgeisiol.

Carys Lewis

Awdur a chyfarwyddwr o Gymru a Chanada yw Carys. Yn fwyaf diweddar, bu’n gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru fel eu Gwneuthurwr Ffilm Preswyl lle y bu’n creu trioleg o ffilmiau: GRAM GIRL, ALT, a FLUORESCENCE (Gŵyl Ffilmiau Llundain ’19). Mae Carys yn datblygu ei ffilm gyntaf fel cyfarwyddwr, BLUE MOTHER, gyda chymorth Rhwydwaith BFI, ac mae’n cyd-ysgrifennu’r ffilm nodwedd, HOW BLACK MOTHERS SAY I LOVE YOU, gyda’r dramodydd Trey Anthony, a aeth ymlaen i ail rownd 2021 Sundance Screenwriters Lab. Caiff y ffilm ei chynorthwyo gan Telefilm Canada a Ffilm Cymru Wales. Mae’r tîm yn addasu’r stori i’r teledu, a chaiff ei datblygu gyda CBC. Mae Carys hefyd yn datblygu comedi hanner awr, WHITE GIRL MAGIC, gyda CBC. Gwnaeth Carys ysgrifennu a chyfarwyddo comedi wedi’i hariannu gan BFI, STUFFED, a enwebwyd ar gyfer y Ffilm Fer Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2019. Cafodd ei ffilm fer Gymraeg LGBTQ+, AFIACH, ei dangos am y tro cyntaf yn Ngŵyl Gwobr Iris, ac fe’i dangoswyd ar BBC iplayer ac S4C. Fel eiriolwr dros gynrychiolaeth gydradd i fenywod o flaen a’r tu ôl i’r camera, Carys yw sylfaenydd FEM SCRIPT LAB, labordy ysgrifennu i sgriptwyr sgrin benywaidd ac anneuaidd yn Toronto. Bu’n Awdur Preswyl yn Theatr Clwyd a chafodd ei dethol i garfan RHWYDWAITH BFI Gŵyl Ffilmiau Llundain 2019 a Chriw BAFTA 2019/2020. Mae Carys yn falch o fod wedi graddio o’r George Brown Theatre School. Mae’n byw yn Toronto a Chaerdydd gyda’i chi Ziggy.