a still from animated short film druids, featyuring a clay puppet of a druid with a walking stick

Gweminar Beacons: Animeiddio

28th April 2021, 4:00

Ydych chi’n animeiddiwr, wedi eich geni neu’n seiliedig yng Nghymru, ac yn dyheu i ysgrifennu a chyfarwyddo eich campwaith cyntaf o ffilm fer wedi’i hariannu gan y diwydiant? Neu efallai eich bod yn awdur, cyfarwyddwr neu gynhyrchydd sy’n dymuno cydweithio ag animeiddiwr ar brosiect newydd?

Ymunwch â Ffilm Cymru, RHWYDWAITH BFI Cymru a’n cyfeillion yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd i gael gwybod mwy am gronfa ffilmiau byr Beacons, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales ac a fydd yn ailagor i dderbyn ceisiadau ym mis Ebrill 2021.

Yn ystod y weminar am ddim yma, cawn gwmni gwesteion arbennig a fu’n rhan o gynllun Beacons – Lauren Orme, Shwan Nosratpour ac Efa Blosse-Mason – a fydd yn rhannu eu profiadau eu hunain o greu ffilmiau byr wedi’u hanimeiddio drwy’r gronfa.

Bydd wedyn gennych y cyfle i ddysgu mwy am Beacons, a chael cyngor ar sut i wneud i’ch cais sefyll allan. Bydd sesiwn Holi ac Ateb ar ddiwedd y digwyddiad.

Mae Beacons yn darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol, hyfforddiant a chyfleoedd mentora i helpu gwneuthurwyr ffilmiau i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae ffilmiau byr a gynhyrchwyd drwy’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus mewn gwyliau ffilmiau gan ennill nifer o wobrwyon, ac wedi’u darlledu ar BBC Cymru a’u rhyddhau ar iPlayer. Cewch wybod mwy am Beacons fan yma.

Noder ein bod yn cynnal digwyddiadau pellach sy’n canolbwyntio’n benodol ar Ffilmiau Dogfen a Ffuglen Gweithredu Byw. Fe’ch gwahoddwn i gofrestru i’r digwyddiad y teimlwch sydd fwyaf perthnasol i chi – wrth gwrs, mae croeso i chi gofrestru i sawl sesiwn wahanol.

Ynglŷn â’n gwesteion arbennig

Lauren Orme

Enillodd Lauren wobrau am ei gwaith fel animeiddiwr a chyfarwyddwr. Mae’n arbeniog mewn gwaith animeiddio digidol a chyfryngau cymysg 2D. Mae’n cyfarwyddo a chynhyrchu drwy ei chwmni stiwdio a chynhyrchu, Picl Animation. Mae ei ffilmiau byr wedi’u dangos mewn gwyliau ledled y byd a chafodd ei ffilm fer CREEPY PASTA SALAD, a ariannwyd gan Ffilm Cymru a RHWYDWAITH BFI, ei henwebu am Wobr Ffilm Fer Animeiddiedig BAFTA 2020. Lauren hefyd yw Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd, sy’n bedwar diwrnod o ddigwyddiad bob yn eilflwydd i ddathlu animeiddio i bawb, a chaiff ei gynnal yn Chapter. Mae wedi bod yn cynnal digwyddiadau ers 2014 pan sefydlodd Nosweithiau Animeiddio Caerdydd, sef digwyddiadau poblogaidd bob yn eilfis i ddangos ffilmiau wedi’u hanimeiddio yng nghanol dinas Caerdydd. Mae Lauren yn creu animeiddiadau ar gyfer darllediadau, ffilmiau dogfen, theatr a pherfformiadau byw, yn ogystal â ffilmiau byr, fideos cerddoriaeth, fideos corfforaethol ac ymgyrchoedd elusennol wedi’u hanimeiddio. Mae wedi gweithio gyda chleientiaid a chydweithwyr gan gynnwys Channel 4, ITN, BBC3, S4C, Cynyrchiadau Twt, Boom Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, National Theatre, Charlotte Church, Joanna Quinn, Cynyrchiadau Be Aware, The Globe Theatre a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Shwan Nosratpour

Awdur-gyfarwyddwr ac animeiddiwr sy’n seiliedig yng Nghaerdydd yw Shwan. Cafodd ei ffilm fer gyntaf, DRUIDS, ei chefnogi gan gronfa Beacons a chaiff ei rhyddhau yn 2021. Mae Shwan hefyd ar waith â datblygu prosiect nodwedd animeiddiedig gyda chymorth Ffilm Cymru.

Efa Blosse-Mason

Gwneuthurwr ffilmiau o Gaerdydd yw Efa Blosse-Mason. Ysgrifennodd a chyfarwyddodd ffilm fer Gymraeg, ‘Cwch Deilen/Leaf Boat’, sydd ar BBC iplayer ar hyn o bryd. Aeth Efa i’r brifysgol yn y Bristol School of Animation ac enillodd ei ffilm raddedig ‘Earthly Delights’ Wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am animeiddiad gorau gan fyfyriwr yn 2019. Mae ei gwaith fel arfer yn canolbwyntio ar themâu menywod, storïau LGBTQ+ a byd natur.