a small film crew standing in a field overlooking a misty valley

Datganiad Gwyrdd 2021

Cefndir

Mae adroddiad diweddar y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn rhoi manylion tystiolaeth helaeth sy’n cadarnhau effeithiau negyddol difrifol ar ein hinsawdd, nad oes modd eu dad-wneud, o ganlyniad i weithgarwch pobl. Mae angen gweithredu nawr a pharhau i sicrhau bod pob llywodraeth, diwydiant a sefydliad yn cydweithio ac yn gwneud newidiadau brys i’r ffordd rydym yn gweithio ac yn byw.

Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cydnabod y cyfleoedd i Gymru gynyddu a chyflawni ei thargedau amgylcheddol. Yn yr adroddiad ‘The path to Net Zero and reducing emissions in Wales’ mae’n cyflwyno’r targed uchelgeisiol i leihau’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i Sero-Net erbyn 2050. 

Mae llawer o ddiwydiannau’n cynhyrchu allyriadau ar raddfa frawychus, ac nid yw’r diwydiannau sgrin, ffilm a theledu yn wahanol. Er y gall sinema fod yn offeryn gwych i ledaenu ymwybyddiaeth o’r newid yn yr hinsawdd, gall y broses o greu ac arddangos ffilmiau hefyd fod yn wastraffus iawn a chymryd llawer o adnoddau. 

Mae gan y diwydiant ffilmiau rôl allweddol yn lleihau ei effeithiau amgylcheddol ei hun ar bob cam datblygu, cynhyrchu ac arddangos. Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau CO2 a achosir gan gludiant a defnyddio ynni ym myd ffilm, a’r angen i ystyried sut mae’r diwydiant yn defnyddio deunyddiau a’r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn sgil hynny. Mae gwaith ymchwil o bob rhan o’r byd yn pwysleisio nid yn unig bod angen lleihau ein heffaith ond bod angen i ni fynd y tu hwnt i hynny a datblygu newidiadau dwfn i’r ffordd rydym yn gweithio ac yn byw. 

Ffilm Cymru Wales

Mae Ffilm Cymru wedi ymrwymo i hybu sector ffilm cynaliadwy, sy’n gynhwysol, arloesol a gwyrdd. Ers 2006, rydym wedi darparu cyllid, hyfforddiant ac arweiniad i wneuthurwyr ffilm sefydledig a rhai sy’n dod i amlygrwydd, cynnig profiadau sinematig cyffrous i gynulleidfaoedd ledled Cymru, annog pobl o bob oed a gallu i ddysgu’n greadigol a datblygu sgiliau a llwybrau gyrfa drwy amryw raglenni hyfforddiant, a chyd-ddatblygu dulliau sy’n helpu pobl yn y sector i weithio’n wahanol.

Rydym yn eirioli dros newid ar draws y sector, ac yn cynorthwyo newid, gan gynnwys nodi agweddau sy’n rhwystro newid, a datblygu dulliau sy’n goresgyn y rhwystrau hynny. 

Mae ein cynllun strategol yn nodi bod y sefydliad yn mynd ati i hybu sector ffilm a diwylliant ffilm cynaliadwy sy’n gweithio i bawb ledled Cymru. Fel rhan o hyn, mae ystyriaeth gref ynghylch y rôl sydd gennym yn sicrhau sector sgrin gwyrddach yng Nghymru. Mae ein gwerthoedd a’n gwaith hefyd wedi’u fframio yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n cyflwyno’r angen am Gymru lewyrchus a chydnerth, ond hefyd am Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang; yn hybu datblygiad cynaliadwy a chyfrannu at les yr amgylchedd. Mae’n hanfodol bod busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a’r llywodraeth yn cydweithio i gyflawni’r nodau cyfunol hyn.

Dim ond y dechrau yw’r datganiad gwyrdd hwn i ni, a’n blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn clywed safbwyntiau’r rhai rydym yn gweithio gyda nhw a thu hwnt yn y cam cyntaf hwn o ddatblygu ein strategaeth werdd. 

Bydd Ffilm Cymru Wales yn cynllunio at y tymor hir. Byddwn yn lliniaru effeithiau presennol ac yn cydweithio / cynnwys pawb rydym yn gweithio gyda nhw ac iddyn nhw wrth i ni geisio mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Camau Gweithredu a Gwaith Parhaus

Mae ein rhaglen Cymru Werdd am fod yn cefnogi sector ffilm yng Nghymru sydd nid yn unig mewn gwell sefyllfa i oresgyn yr heriau a gwyd yn sgil y newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol eraill ond sydd hefyd yn parhau i dyfu mewn modd cynaliadwy. Caiff ein mentrau eu cyflawni drwy bedair elfen weithgarwch benodol y rhaglen: 

  • Ymchwil 
  • Arloesi a chydweithio
  • Cymorth
  • Gwella

Rhoddir ciplun isod o’r camau mae Ffilm Cymru Wales wedi’u cymryd hyd yma a’r gwaith pellach sydd i’w wneud tuag at greu sector ffilm yng Nghymru sy’n gynaliadwy a mwy cynhwysol.

Ymchwil

  • Mae Ffilm Cymru Wales a’i bartneriaid yn helpu i sefydlu grŵp rhanddeiliaid y llywodraeth a diwydiant i ddatblygu map o’r llwybr tuag at sector sgrin mwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys prosiect ymchwil cychwynnol i wella dealltwriaeth y sector a darparu mesuriad gwirioneddol o’i effaith amgylcheddol.
  • Yn y dyfodol rydym hefyd yn bwriadu defnyddio cyllid ysgogi i ddarganfod mwy ynglŷn â’r arfer bresennol o dderbyn hyfforddiant a defnyddio cyfrifianellau carbon

Arloesi a Chydweithio

  • Denwyd £700k o arian arloesi i gynorthwyo cyfleoedd cynnar a rhai sydd wrthi’n tyfu i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd sy’n helpu’r sector i fod yn wyrddach. 
  • Sefydlwyd partneriaethau â sefydliadau a rhwydweithiau gwyrdd eraill i helpu i rannu arferion gorau ac adnoddau (gan gynnwys GreenRegio, is-adran o’r rhwydwaith cyllido ffilmiau Ewropeaidd, CineRegio, Albert BAFTA, Sustain Cymru, Clwstwr a Chymru Greadigol, Llywodraeth Cymru)
  • Yn y dyfodol mae’n bosibl y byddwn yn archwilio partneriaethau i greu cynnwys naratif sy’n pwysleisio cynaliadwyedd amgylcheddol.

Cymorth

  • Mae Ffilm Cymru Wales wedi penodi Rheolwr Materion Gwyrdd yn benodol i hybu ein huchelgeisiau o ran cynaliadwyedd a helpu’r sector sgrin i fod yn fwy cynaliadwy yng Nghymru
  • Mae ein rhaglen hyfforddiant gynhwysol i newydd ddyfodiaid, Troed yn y Drws, yn helpu i gysylltu pobl leol â swyddi cynhyrchu i’r sgrin, gan ganolbwyntio ar eu sgiliau trosglwyddadwy, o waith coed ac arlwyo, i yrru a gweinyddu. Mae hyn yn annog cwmnïau ffilm i gyflogi hyfforddeion yn lleol ac felly lleihau’r ôl-troed carbon.
  • Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o adnoddau ac arferion gorau i helpu’r diwydiant i wneud newidiadau. 
  • Gweithio gyda’r unigolion a’r sefydliadau a gynorthwywn, a’r ecosystem yn ehangach, i ymgorffori ac integreiddio arferion cynaliadwy ymhellach gan gynnwys cael gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n rhwystro cynhwysiant ac amrywiaeth, a chynaliadwyedd amgylcheddol ym myd ffilm. Rydym hefyd eisiau hwyluso’r arfer o ddefnyddio hyfforddiant am ddim a chyfrifianellau carbon ymysg y gwneuthurwyr ffilmiau, yr arddangoswyr a’r addysgwyr ffilm yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Gwella

  • Rydym wedi lleihau ein defnydd o bapur drwy droi’n ddigidol – roedd hyn yn cynnwys troi o ddefnyddio system ffeilio bapur i system ddigidol gyda’r nod o fod yn sefydliad di-bapur.
  • Rydym wedi gwella’r arfer o fonitro ôl-troed carbon ein cwmni i leihau ein heffaith amgylcheddol wrth symud ymlaen. Roedd hyn yn cynnwys tanysgrifio i fenter UK Climate Hub sy’n blatfform i rannu offer ac adnoddau.
  • Byddwn yn parhau i adolygu ein prosesau mewnol a gwneud addasiadau i’r ffyrdd rydym yn gweithio. Rydym ar waith â newid ein banc i ddarparwr mwy moesegol a chynaliadwy.
  • Rydym hefyd yn ceisio cydweddu â deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol a pholisïau datblygu cynaliadwy megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru ac 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.