a person sitting down holding a film camera. They are outside with mountains in the background.

Cyfle hyfforddi i ddarpar griw ffilm Casnewydd

22nd April 2021, 9:00

Mae Ffilm Cymru Wales a Chyngor Dinas Casnewydd wrth eu bodd yn cyflwyno dosbarth meistr Troed yn y Drws wedi’i anelu at bobl 18-30 oed sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am weithio y tu ôl i’r llenni mewn ffilm a theledu.

  • Am ddim

  • Does dim angen profiad ymlaen llaw.

  • Ar agored i drigolion Casnewydd yn unig

Ar gyfer pwy mae hwn?

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am weithio yn y diwydiant teledu a ffilm ac yn ddelfrydol, ddim mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant llawn-amser. Gallwch chi wneud cais nawr am y cyfle hyfforddi hwn sydd am ddim er mwyn cael gwybod sut y gallwch ddatblygu eich sgiliau a deall mwy am sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant ffilm a theledu.

Rydym wedi ymrwymo i annog ceisiadau gan unigolion sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn y diwydiant Teledu a Ffilm yng Nghymru; gan gynnwys pobl o grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anabl, pobl sy’n LHDTC+ a phobl sy’n niwrowahanol.

Os nad ydych chi wedi cael mynediad neu’r cyfle i astudio, hyfforddi neu ddysgu trwy brofiad gwaith yn y sector ffilm a theledu o’r blaen ac yn gallu ymrwymo i fynychu dwy sesiwn ar-lein ar draws 2 ddiwrnod ar 22/23 Ebrill, mae hwn yn rhywbeth i chi!

Yr hyn fyddwch yn ei ddysgu?

Bydd y dosbarth meistr hwn yn digwydd ar-lein ar draws 22 a 23 Ebrill a bydd y cyfranogwyr yn:

  • Clywed gan y siaradwyr gwadd arbenigol sy’n gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu
  • Dysgu am yr amrywiaeth eang o rolau ar y set
  • Cael cyngor ymarferol ar lwybrau i mewn i’r diwydiant ffilm a theledu

Os yw hen yn swnio fel cyfle i chi, cliciwch yma i wneud cais, neu e-bostiwch Siobhan@ffilmcymruwales.com i gael gwybod rhagor.

Os oes dull arall o wneud cais sy’n fwy addas i chi neu os hoffech chi gyflwyno cais llais/ wedi’i ffilmio, rhowch wybod i Siobhan ar y cyfeiriad e-bost uchod.

Mae lleoedd yn gyfyngedig iawn ac mae’r ceisiadau’n cau ar 12 Ebrill 2021.