behind the scene photo of being seen, with a camera crew filming a person getting a tattoo

Creu Ffilmiau Byr Ffeithiol

20th March 2024, 12:00

Ffilm Cymru Wales, BFI NETWORK Wales a BFI Doc Society yn gwahodd gwneuthurwyr ffilmiau ac artistiaid newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, yng Nghymru neu o Gymru, i ymuno â ni mewn sesiwn arbennig ar-lein ar y grefft o greu rhaglenni dogfen byr sy’n torri ffiniau.

BFI NETWORK / The National Lottery / Doc Society logo

Byddwn yn rhannu canllawiau ar Gronfa Ffilmiau Byrion Beacons (yn agor Ebrill/Mai) a Made of Truth: Cronfa BFI Doc Society sy’n ailagor ym mis Mawrth ac yn gwahodd gwneuthurwyr ffilmiau dogfen, artistiaid XR a phobl greadigol eraill sy’n dod i’r amlwg, i rannu straeon ffeithiol gwreiddiol, sinematig a beiddgar sy’n ymateb i’r byd cyfnewidiol o’n cwmpas. Mae’r gronfa’n cydnabod rhinwedd y gwahaniaeth mewn safbwyntiau, pwysigrwydd pwy sy’n adrodd y stori, a chydweithio cryf. Gall y gronfa gynorthwyo hyd at 15 o brosiectau ffeithiol byr unigol bob blwyddyn gydag uchafswm o £25,000 o arian grant ac mae’n agored i wneuthurwyr ffilmiau o bob rhan o Brydain a Gogledd Iwerddon. 

Yn ein tywys drwy eu taith greadigol eu hunain bydd cyn-gyfranogwyr o’r ddau gynllun ffilmiau byrion: Ren Faulkner a Toby Cameron, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Being Seen (Beacons) a Natalie Cubides-Brady, cyfarwyddwr a chynhyrchydd The Veiled City (Made Of Truth).

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw un a aned yng Nghymru neu wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n datblygu gwaith dogfen creadigol. 

Bydd y sesiwn yn para 60 munud a bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau. Bydd sgrindeitlo byw a dehongliad BSL yn cael eu darparu, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ofynion mynediad, cysylltwch â Tracy Spottiswoode ar tracy@ffilmcymruwales.com neu ffoniwch 07902 492109 i drafod yn gyfrinachol.

Ren Faulkner

Ar ôl graddio o Brifysgol y Celfyddydau Bournemouth gyda gradd mewn Cynhyrchu Ffilm, dychwelodd Ren i'w cartref yng Nghaerdydd, a dod yn rhan o’r byd ffilm a cherddoriaeth leol. Ers hynny bu’n gweithio ar gynyrchiadau BBC Cymru (Black and Welsh, Gŵyl y Llais), ac maen nhw wedi ffilmio fideos cerddoriaeth a sesiynau byw gyda rhai fel Buzzard Buzzard Buzzard a Cate Le Bon, yn ogystal â chynorthwyo ar ffilmio a golygu ochr yn ochr â’u cydweithwyr yn On Par Productions. 

Cyfarwyddwyd eu rhaglen ddogfen fer gyntaf ‘Being Seen’ yn 2023, wedi’i hariannu gan Gynllun Beacons Ffilm Cymru. Fel gwneuthurwr ffilmiau anneuaidd, yn eu hamser hamdden maen nhw’n mwynhau golygu rhaglenni dogfen arbrofol am hunaniaeth a phrofiad LHDT ac maen nhw am barhau i ddod â'r syniadau hyn i sgrin fwy.

Toby Cameron

Ar ôl graddio â gradd mewn ffilmiau dogfen o Ysgol Ffilm Casnewydd, creodd Toby On Par Productions fel modd i fireinio ei grefft ac adrodd straeon am aelodau amrywiol o gymdeithas. Mae'n gynhyrchydd ac yn gyfarwyddwr hysbysebion, ffilmiau byrion a theledu.

Yn fwyaf nodedig, gwyliwyd ei raglen ddogfen ar BBC One, "Born Deaf Raised Hearing", gan 1.4 miliwn o bobl, ac yn ddiweddar enillodd Ffotograffiaeth Orau yn BAFTAs 2023. Roedd ar Gynllun Cyfarwyddwyr Newydd BBC Cymru yn 2018, ac enillodd wobr Torri Drwodd yng Ngwobrau RTS Cymru yn 2020. Yn ddiweddar cynhyrchodd raglen ddogfen fer, "Being Seen," ac mae newydd gwblhau ei ffilm fer ffuglen gyntaf, "Grappling," y gwnaeth ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo, sy'n golygu mai dyma ei stori fwyaf personol hyd yn hyn. Ariannwyd y ddwy fel rhan o Gynllun Beacons Ffilm Cymru. Ar hyn o bryd mae'n datblygu ffilm ddogfen nodwedd a llond llaw o raglenni dogfen i deledu.

Natalie Cubides-Brady

Mae Natalie yn wneuthurwr ffilmiau arobryn sy'n gweithio ar y ffin rhwng rhaglenni dogfen a ffuglen. Mae wedi ei chyfareddu gan y berthynas rhwng tirwedd, amser a chof. Cafodd ei ffilm fer ddiweddaraf, The Veiled City, ei dangos am y tro cyntaf yn Berlinale 2023 ac fe’i hariannwyd gan y BFI Doc Society. Aeth ymlaen i ennill gwobr y Ffilm Ddogfen Orau yn Curtas Vila do Conde, gwobr Mikeldi am y Ffilm Ddogfen Fer Orau yn Zinebi Bilbao, sy’n ei chymhwyso ar gyfer yr Oscars, a gwobr Ffilm Fer Brydeinig y Flwyddyn yn y Critics Circle Film Awards, Llundain. Mae hefyd wedi’i henwebu am Wobr Ffilm Ddogfen yr IDA ac mae’n Ymgeisydd Ffilm Fer ar gyfer Gwobrau Ffilm Ewrop 2024.

Mae'n gyn-fyfyriwr y Berlinale Talents ac MA mewn Cyfarwyddo Rhaglenni Dogfen, NFTS.