beacons documentary roundtable. Bord gron ffilmia dogfen

Beacons: Bord gron ffilmiau dogfen

10th June 2022, 2:00

Ymunwch â Ffilm Cymru a BFI NETWORK Cymru i gael gwybod mwy am Gronfa Ffilm Fer Beacons.

Ydych chi'n wneuthurwr ffilmiau dogfen o Gymru, sy'n awyddus i greu eich ffilm fer gyntaf wedi’i hariannu gan y diwydiant? Neu efallai fod gennych chi rywfaint o brofiad yn y maes ffeithiol, neu mewn maes creadigol arall, ac yr hoffech chi groesi i raglenni dogfen sinematig?

Ymunwch â Ffilm Cymru a BFI NETWORK Cymru i gael gwybod mwy am Gronfa Ffilm Fer Beacons, sydd ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau.

Mae Beacons yn cael ei redeg mewn partneriaeth â BBC Cymru. Mae'n darparu cyllid yn ogystal â chymorth creadigol ac ymarferol, hyfforddiant a chyfleoedd mentora i helpu gwneuthurwyr ffilm i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae ffilmiau byrion a gynhyrchwyd drwy'r cynllun wedi llwyddo mewn gwyliau, wedi ennill nifer o wobrau, cael eu darlledu ar BBC Cymru a'u rhyddhau ar iPlayer.

Yn ystod y digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim hwn cewch gyfle i gysylltu'n anffurfiol â thîm BFI NETWORK Cymru a gyda gwneuthurwyr ffilmiau dogfen eraill. Byddwn yn hapus i ateb eich cwestiynau am Beacons a rhoi arweiniad strategol ar wneud cais.