Cartref

Cardiff Animation Festival yn cyhoeddi eu Dewis Swyddogol

Mae Cardiff Animation Festival (CAF) yn ôl am ail flwyddyn, ac wedi cyhoeddi eu dewis swyddogol o 118 o ffilmiau byr wedi’i hanimeiddio mewn cystadleuaeth.

Dywedodd Lauren Orme, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cyfle arall fis Ebryll nesaf i gyflwyno rhaglen animeiddio orlawn yng Nghaerdydd. Dyw animeiddio fel cyfrwng ddim wastad yn cael chwarae teg, ac rydyn ni’n falch iawn o gael rhoi llwyfan iddo. Fe gawsom ni gynifer o ffilmiau wedi’i hanimeiddio anhygoel i’w ddewis ohonynt eleni fe wnaethom ni benderfynu ychwanegu rhaglen ychwanegol. Mae cynulleidfa frwd dros animeiddio yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ac roedd yr ŵyl gyntaf ddwy flynedd yn ôl yn boblogaidd iawn gyda seddi’n brin a pawb yn llawn cyffro. Rydyn ni’n edrych ymlaen at wneud y cyfan eto.”

Mae’r ŵyl wedi dewis 118 o ffilmiau byr sydd wedi dod o amgylch y byd i’w sgrinio yn y gystadleuaeth ar gyfer y Cardiff Animation Festival Awards. Mae’r dewis yn cynnwys lleisiau unigryw ac ystod eang o storïau gan animeiddwyr o wahanol gefndiroedd o amgylch y byd. Mae dros hanner y ffilmiau wedi eu dewis gan animeiddwyr lliw, a dros hanner wedi eu cyfarwyddo gan ferched.

Calon Cardiff Animation Festival yw ein rhaglenni o ffilmiau byr amrywiol, gyda phob sedd yn llawn yn y flwyddyn gyntaf. Ymhlith y themâu eleni bydd ‘Gwir’, casgliad o ffilmiau dogfen er enghraifft Bloomers (Samantha Moore), cipolwg teimladwy ar weithgynhyrchu ym Mhrydain; ‘Gwae!’, rhaglen hwyr o ffilmiau tywyll, rhyfedd, gan gynnwys ffilm waedlyd a seicadelig am ddial Coyote (Lorenz Wunderle); a ‘Mud’, ffilmiau heb eiriau fel y ffilm ddoniol iawn Hors Piste (Léo Brunel, Loris Cavalier, Camille Jalabert, Oscar Malet). Mae ffilmiau am y byd a’n lle ni ynddo, megis yr aruchel In Passing (Esther Cheung) ac The Bear Hunter (Sayaka Hara), cael cartref yn ‘Cynefin’. Mae ‘Calon’ yn cynnwys ffilmiau am gariad a chyfeillgarwch, megis antur syfrdanol glasoed Nettle Head (Paul E. Cabon). Mae Tamou (Tom Prezman, Tzor Edery), stori am ddyn trawsrywiol yn Morocco yn ystod yr 20fed ganrif, a Technology for Talking (Jemima Hughes), sy’n dathlu lleisiau pobl gyda diffyg clyw, yn rhan o’r rhaglen ‘Corff’. Mae ffilmiau ‘Meddwl’ yn archwilio niwro-amrywiaeth ac iechyd meddwl, gan gynnwys Daughter (Daria Kashcheeva) ffilm sydd wedi ei enwebu am Oscar sy’n defnyddio technegau animeiddio sy’n torri tir newydd er mwyn archwilio perthynas tad a merch. Mae Cloth Cat Animation, stiwdio animeiddio yng Nghaerdydd, wedi dewis dwy raglen o ffilmiau byr wedi’i hanimeiddio ar gyfer plant oed 3+ ac 7+, gan gynnwys Cats Can’t Swim (HaiLing Morgan) a The Witch And The Baby (Evgenia Golubeva).

Bydd rhywbeth at ddant pawb yn rhaglen Cardiff Animation Festival eleni eto - ffilmiau byr a ffilmiau nodwedd, dosbarthiadau meistr a gweithdau, sesiynau sgwrs a sgrin, digwyddiadau diwydiant, paneli, cyfle i rwydweithio a phartïon. Yn y gorffennol mae Cardiff Animation Festival wedi cynnal dosbarthiadau meistr a sgwrs a sgrîn ar ffilmiau Isle of Dogs gan Wes Anderson, Earlyman gan Aardman, The Breadwinner gan Cartoon Saloon a chyfres blant Hey Duggee; gweithdai animeiddio a darlunio byw; paneli diwydiant gyda chomisiynwyr dosbarthwyr a gwyliau; ac arddangosfa o bypedau y ffilm hir o Gyrmu Chuck Steel: Night of the Trampires.

Noddir Cardiff Animation Festival 2020 gan Ffilm Cymru Wales a Canolfan Ffilm Cymru, fel rhan o rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) y BFI, gyda nawdd ychwanegol gan Cloth Cat Animation, Picl Animation ac gan ScreenSkills Animation Skills Fund gyda cyfraniad gan gynhyrchiadau animeiddio Prydeinig.

Cynhelir Cardiff Animation Festival 2020 rhwng dydd Iau 2 Ebrill i ddydd Sul 5 Ebrill yn Chapter, canolfan gelfydydau a sinema annibynnol yng Nghaerdydd.

Mi fydd Tocynnau Penwythnos ar werth yn fuan, gyda nifer cyfyngedig o docynnau bargen gynnar ar gael. Dilynwch Cardiff Animation Festival ar Twitter neu tanysgrifio i’w rhestr bostio am y newyddion diweddaraf am docynnau.