Cartref

Swydd: Rheolwr Ffolio

Mae Ffilm Cymru’n chwilio am Reolwr Prosiect i weithio ar fenter newydd gyffrous i ddarganfod, cefnogi a chomisiynu artistiaid sy'n cael eu tan gynrychioli yng Nghymru.

Dylai fod gennych brofiad o weithio gydag artistiaid a chymunedau creadigol yng Nghymru a bod yn gartrefol yn trefnu digwyddiadau hyfforddi ac ymestyn allan ac wrth reoli cyllideb ac adrodd yn ôl i bartneriaid. Dylech fod yn eithriadol o drefnus ac wrth eich bodd yn cysylltu â, a chefnogi, talent gyda chefnogaeth strategol yn ogystal â chefnogaeth ymarferol. 
 
Lleoliad: Cymru. Gweithio’n hyblyg mewn cymunedau ledled Cymru ac yn swyddfa Fflim Cymru yn Tramshed Tech, Caerdydd.
Telerau: Cytundeb tymor penodol 12 mis. Llawn amser neu bron yn llawn amser (yn agored i gynigion ar oriau hyblyg). I ddechrau cynt gynted â phosibl.
Cyflog: £23,000 - £26,000 a phensiwn a 28 diwrnod o wyliau (yn cael ei addasu’n pro-rata ar gyfer rhan amser)

Darllenwch y disgrifiad swydd llawn yma.

Terfyn Amser: 5pm Dydd Iau, 28 Tachwedd 2019. 

Attachments:
Download this file (Rheolwr Ffolio 2019.pdf)Rheolwr Ffolio 2019[ ]291 kB