Cartref

Swydd: Rheolwr RHWYDWAITH BFI Cymru

Mae Ffilm Cymru Wales yn edrych am unigolyn creadigol â thân yn y bol i reoli RHWYDWAITH BFI Cymru, sy’n ceisio nodi a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr dawnus sydd wedi’u geni neu sy’n seiliedig yng Nghymru ar gychwyn eu gyrfaoedd.

Dylech allu darparu cymorth ymarferol yn ogystal â strwythurol i wneuthurwyr ffilm, gan ffurfio mentrau a digwyddiadau talent ymarferol a datblygu partneriaethau perthnasol os oes angen. Dylech fwynhau gweithio fel rhan o dîm ehangach sy’n ymroi i ddatblygu sector ffilm yng Nghymru sy’n gynhwysol, cynaliadwy a llawn ysbrydoliaeth.

Seiliedig: Caerdydd
Amodau: Amser llawn
Cyflog: £30,750 yn ddibynnol ar brofiad, a phensiwn.

Darllenwch y disgrifiad swydd yma.

Dyddiad cau: 5pm dydd Iau 28ain Tachwedd 2019.

 

Attachments:
Download this file (RHEOLWR RHWYDWAITH BFI CYMRU 2019.pdf)RHEOLWR RHWYDWAITH BFI CYMRU 2019.pdf[ ]287 kB