Cartref

Troed un y Drws: Un Bore Mercher

A ninnau wedi ennill gwobr am ein cynllun peilot hyfforddiant Troed yn y Drws, mae Ffilm Cymru bellach yn cynnig tri chyfle newydd i ddysgu sgiliau gwerthfawr ar set cynhyrchiad teledu mawr.

Mae ail gyfres boblogaidd S4C / BBC Cymru Wales, Un Bore Mercher / Keeping Faith, yn saethu hyd at ddiwedd mis Chwefror 2019, ac mae Ffilm Cymru, mewn partneriaeth ag S4C a Vox Pictures, ynghyd â chymdeithasau tai lleol, yn cynnig hyfforddiant am ddim ac wythnos ar y set.

Mae Troed yn y Drws yn cynnig i rai dros 18 oed nad ydyn nhw fel arall mewn swydd, addysg na hyfforddiant, y cyfle i dreulio wythnos yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr a all fod yn gychwyn ar yrfa yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt. Bydd hyfforddeion yn derbyn arweiniad, cyngor a mentoriaeth gan arbenigwyr yn y diwydiant, a gallai ymgeiswyr cymwys hefyd dderbyn cymorth tuag at deithio a gofal plant.

Rolau Hyfforddeion a Phwy sy’n Gymwys

Rolau sydd ar gael:
- Yr Adran Gynhyrchu (Rhedwr Dan Hyfforddiant)
- Cynorthwyydd Dan Hyfforddiant yn yr Adran Gelf
- Hyfforddai’r Adran Leoliadau

Efallai y bydd gennych chi sgiliau trosglwyddadwy presennol yn y meysydd hyn, fel gwaith coed, cymhwyster celf, neu mewn rôl weinyddol neu gydlynu er enghraifft.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y cyfleoedd yma.  Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan rai sydd yn cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn ogystal â’r rhai sydd yn dysgu ond yn eiddgar i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Caiff y gwaith ffilmio ei wneud ar draws canol de Cymru (union leoliadau i’w cadarnhau ond caiff cludiant ei gynnig).

Dyddiad Cau a Ffurflen Gais

Dyddiad cau ymgeisio yw 12 hanner dydd ar 10 Ionawr 2019 ac mae manylion y ffurflen gais i’w gweld fan hyn.

Cânt eu gwahodd i ddiwrnod recriwtio yn ne Cymru ar 16 Ionawr (lleoliad i’w gadarnhau).

Caiff yr hyfforddiant ei gynnal ar 29-31 Ionawr, a bydd y lleoliadau’n cychwyn ar 4 - 8 Chwefror.

Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â’ch cais, cysylltwch ag Angharad Williams drwy e-bost: Mae'r cyfeiriad e-bost yn cael ei warchod rhag spam bots. Mae angen alluogi Javascript i'w weld.