Cartref

Cyhoeddi sgript ffilm Third Star fel llyfr argraffiad cyfyngedig

Mae sgript y ffilm gwlt Third Star ‘nawr ar gael fel llyfr. 

Cyhoeddwyd y llyfr gan Ffilm Cymru Wales, ac yn ogystal â’r sgript mae hefyd yn cynnwys lluniau unigryw o du ôl i’r llenni, blogiau cynhyrchu a chyfweliad gyda’r awdur Vaughan Sivell.
 
Sêr y ffilm, a gynhyrchwyd yn 2010, yw Benedict Cumberbatch, Tom Burke a JJ Feild, ac ynddi ceir stori annisgwyl o annwyl am frawdgarwch a gwir gyfeillgarwch yn wyneb trasiedi.
 
Gallwch gael eich copi yma.